“Nain, dwi’n hoyw” – Dod Allan i’r Teulu



Heb Ei Gategoreiddio | gan | Feb 4th 2019

Dyn yn poeni yng nghanol fflag Pride ar gyfer stori Nain, dwi'n hoyw - Dod allan i'r teulu

Gall ‘dod allan’ i’ch teulu fod yn brofiad anodd iawn i bobl ifanc. Hyd yn oed os ydynt yn eithaf sicr byddant yn cael ymateb positif, nid allant warantu hyn. Maent yn poeni bydd y berthynas deuluol yn newid am byth oherwydd yr un ffaith yma.

Gan fod mis Chwefror yn fis Hanes LHDT rydym am rannu stori ‘dod allan’ person ifanc gyda chi (wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol ar ein chwaer wefan theSprout), yn benodol ‘dod allan’ i’w daid a’i nain Mwslim caeth.

Nain… rwy’n hoyw

Yn dilyn dod allan i’m nheulu a ffrindiau agos, roeddwn yn teimlo’n wych. Roedd y rhyddhad a’r llawenydd yn anhygoel, ond yna meddyliais, “beth am nain a taid?

Mae nain a taid yn Fwslemiaid caeth. Maent yn deall bod eu plant a’u hŵyr/wyresau yn Orllewinol a ddim yn draddodiadol, ond mae cariad mawr yno o hyd. Ond beth os yw rhywbeth enfawr yn digwydd, rhywbeth gall ffrwydro’ch bywyd? Rhywbeth gall ofidio rhai o’ch perthnasau agosaf? Sut ydw i’n dweud wrth nain a taid fy mod i’n hoyw?

Sut ymateb?

Rwyf yn eu caru nhw’n fawr iawn, ac maen nhw’n fy ngharu i hefyd. Mae’r bond yn un anhygoel ac ni ellir ei dorri. Ond fe ddechreuais gwestiynu hyn, ac roedd dau gwestiwn yn troelli yn fy mhen o hyd – Sut fyddant yn ymateb? Fydda nhw’n fy ngharu o hyd?

Treuliais noson ar ôl noson yn crio, yn edrych ar bob tudalen gwe y daw os oeddwn i’n teipio ‘Islam’ a ‘Gay’ yn Google, yn ceisio chwilio am yr erthygl ddychmygol oedd yn dweud bod popeth yn iawn, ond yn amlwg nid oedd hwn yn bodoli.

Wyneb dan ddŵr yn edrych yn boenus - i gynrychioli'r helbul o ddod allan yn hoyw i'ch teulu

Poeni’n ormodol

Rwyf wedi bod yn hoyw erioed; bachgen oedd fy atyniad rhywiol gyntaf, roedd yn hollol glir yn fy mhen. Ceisiais newid (wir ar!) ond roedd hyn yn fy ngwneud yn drist ac yn isel iawn. Byddwn yn ffraeo gyda fi’n hun, a cheisiais anafu fy hun unwaith. Ar ôl hyn penderfynais ofyn i athro am help. Mae mynd drwy’r profiad yma yn profi nad dewis yw bod yn hoyw; nid yw’n rhywbeth gallaf ei newid.

Roeddwn yn poeni am y peth am fisoedd, am beth fydda’n digwydd os byddwn yn dod allan i nain a taid. Byddwn yn eistedd ac yn meddwl am bob sefyllfa bosib: “Dwi’n hoyw” – “Nid ydym yn dy garu mwyach, paid byth siarad â ni eto“. Dechreuais gredu mai dyma fydda’n digwydd, ac roedd hynny’n brifo. Roedd y boen o ‘beth os’ yn ormod a phenderfynais fod yn ddewr a dweud, a delio gyda’r canlyniadau wedyn. Teimlais fel bod y berthynas yn dechrau mynd yn oeraidd yn barod, ac roedd hynny’n teimlo fel cleddyf trwy’r galon.

Dod allan

Codais y ffôn symudol. Wrth iddo ganu gallwn glywed fy nghalon yn curo’n uchel ac yn sydyn, ac roeddwn yn chwysu. Cododd nain y ffôn:

“Nain, mae’n rhaid i mi ddweud rhywbeth pwysig iawn i chi. Dwi’n hoyw.”

Roedd nain yn meddwl mai tynnu coes oeddwn i gychwyn.

“Na wir, dwi’n hoyw”

Yna aeth y llinell yn ddistaw.

“Nain? Ydych chi’n fy ngharu o hyd?”

Dywedodd ei bod wedi cael sioc, ond nad oedd ganddi reolaeth o’i chalon a bydda hi wastad yn fy ngharu. Dechreuais grio, ac fe griodd hithau hefyd. Mae hi’n casáu’r syniad fy mod i’n hoyw, ond mae’n fy ngharu ac roedd hynny’n ddigon i gynhesu’r galon.

Pan basiodd y ffôn i taid roeddwn yn ofnus iawn. Poenais y byddai’n gwylltio, ond fe ymatebodd yn yr un ffordd (ond wedi cael mwy o sioc). Yr hyn oedd yn brifo, er nad oedd yn annisgwyl, oedd pan ofynnodd os oeddwn yn gweld doctor, a sut oeddwn i am gael plant? Roedd rhaid egluro lot i ddarbwyllo mod i’n hoyw, ac yn sicr o hynny, ond mae’n dal i feddwl nad wyf yn adnabod fy hun yn iawn eto. Y peth olaf dywedodd oedd “Dwi am fynd i weddïo“… ac yna tarodd y ffôn i lawr.

Paun balch yn cynrychioli bod yn falch a bod yn ti.

Bydda’n ti

Felly, mae’n debyg bod hwn yn ymateb positif o fath, gan eu bod yn Fwslemiaid traddodiadol, ond yn amlwg roedd yna bethau negyddol. Mae hyn wedi bod yn ddull o fentio emosiynol i mi, ac rwy’n eich hannog i deimlo’n rhydd i fod yn chi’ch hun. Ni ddylech chi adael i rhywun arall atal hyn, ac er pa mor anodd yw pethau weithiau, mae yna ochr ddisglair – efallai nad yw’n anhygoel o ddisglair ond mae’n dal i sgleinio.

—————

Os byddech chi’n wynebu’r sefyllfa yma yn eich teulu chi, yna byddwch yn ymwybodol o’r ffordd rydych chi’n ymateb i’r newyddion. Cofiwch fod y person yma wedi bod yn meddwl gwneud hyn ers wythnosau, misoedd a blynyddoedd cyn teimlo’n ddigon dewr i ddweud, yn poeni’r holl amser. Nid yw’n broses hawdd ac felly mae’ch ymateb chi’n bwysig iawn. Os ydych chi’n cael trafferth dod i dderbyn hyn ac eisiau gwybodaeth bellach, yna mae gwefan Stonewall yn le da i gychwyn.


Rhannwch hwn