Iselder Ar Ôl Y Geni: Y Gwir Truenus (Rhan 2)



Gofal Plant Iechyd Newyddion | gan | Jul 14th 2016

postnatal depression experience

Yn gynharach yr wythnos hon, dechreuodd Carla rannu ei phrofiad o iselder ar ôl y geni. Yn Rhan Un siaradai am gymhlethdodau ei beichiogrwydd, ei theimladau o unigedd a sut cychwynnai digio â’r plentyn yn ei bola. Yma mae Carla yn siarad am beth ddigwyddodd ar ôl yr enedigaeth…

Roedd y sganiau yn dangos ei fod dros 8 pwys, iach, dim rheswm y byddai wythnos neu ddau yn fuan yn ei anafu. Roedd yn troi’n ddyddiol, felly nid fyddai byth yn y safle cywir. Roeddem yn ymwybodol bod rhaid cael croth doriad (caesarean) ond roeddent yn hapus i mi fynd pythefnos dros y dyddiad cyn hyn. Bydda hyn wedi bod yn 5-6 wythnos yn yr ysbyty – ac nid oeddwn am adael i hynny ddigwydd. Ar ôl i mi fynd i chwalfa dywedodd y meddyg y gallwn gael croth doriad dewisol – ar y dyddiad geni – felly dyna ddigwyddodd.

Roeddwn yn ei garu ond yn teimlo dim

Roeddwn yn parhau i fod yn ddig â’r babi ac eisiau cael ef allan ohonof i, a fi allan o’r ysbyty. Cyrhaeddodd diwrnod y groth doriad, roedd ofn mawr arnaf ond teimlais ddim am y babi, dim ond rhyddhad bod diwedd ar y gorwel. Pan ganwyd roedd fel bod rhywun arall yn byw fy mywyd, nid fi. Teimlais yn ddatgysylltiedig. Roeddwn yn ei garu ac yn gofalu amdano ond yn teimlo dim. Ac oherwydd y groth doriad roedd rhaid disgwyl eto!

Nid oedd yn bwydo’n iawn, ac roedd hyn yn achosi mwy o bryder. Roedd yn 5 diwrnod cyn i mi adael, yn dal i deimlo’n ddatgysylltiedig. Mae’n anodd egluro, roeddwn yn ei garu ond yn teimlo dim… mae’n deimlad od iawn, dim bond fel y cefais gyda’m mab cyntaf.

Adref o’r diwedd

Ar ôl cyrraedd adref roedd pethau’n anodd. Roeddwn i wedi bod yn yr ysbyty am 4 wythnos ac yn teimlo wedi fy sefydliadu, ac roedd bod gartref gyda baban newydd a phlentyn 3 oed yn wallgof. Bron i mi fod eisiau dychwelyd i’r ysbyty, wrth i mi ysu am rywbeth nad oeddwn yn ei gael adref – dwi ddim yn sicr iawn beth!

Yn araf bach addasais i fod adref, yn cael llawer o ymweliadau, yr holl bethau baban newydd, ond nid oeddwn yn teimlo’n iawn o hyd – yn parhau i deimlo’n ddatgysylltiedig, ac yn euog – fy mhlentyn i oedd hwn ac nid oeddwn yn teimlo dim! Trodd y diwrnodau’n wythnosau, ac ymdrechais ymlaen gyda bywyd gartref ac yn mwynhau’r amser gyda’m mab 3 oed, ond nid yn mwynhau cael baban newydd. Roedd yn cael gofal da ond gwneud swydd oeddwn i nid byw’r dyddiau.

Aeth pethau yn eu blaen fel hyn, roeddwn yn cael allan o’r tŷ cymaint â phosib, eisiau bod yn oedolyn nawr ac nid mam newydd. Ymunais â Chymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol – pobl, cefais gymdeithasu – ac aros yn ddatgysylltiedig.

pic 4 (Westwood #2) Postnatal Depression

Roedd rhaid i mi siarad â’r doctor a’m nheulu.

Erbyn hyn roedd yr euogrwydd yn enfawr, roedd angen i mi garu’r plentyn yma yn iawn, roedd yn fab i mi. Nid oedd yr ymwelydd iechyd wedi sylwi ar fy nheimladau, mae’n hawdd dweud celwyddau, pam nad oeddwn i’n cyfaddef? Ofn direswm y byddant yn cymryd fy mhlant! Er fy mod yn gofalu amdanynt.

Ar ôl 4 mis roedd rhaid i rywbeth ddigwydd, felly ymwelais â’r doctor. Gwrandawodd y doctor benywaidd hyfryd wrth i mi esbonio fy natgysylltiad, trawma’r ysbyty, gwahaniad o’m nheulu – a dywedodd mod i’n dioddef o iselder ar ôl y geni, da iawn am wynebu’r peth a sut gallant helpu.

Gwyddwn nad oeddwn i’n hapus yn cymryd tabledi, ond dwi’n hoffi siarad, felly siaradais! Ar ôl ymweld â’r doctor roedd fel petai golau wedi cael ei droi ymlaen. Cyfaddefais y cwbl i’m mhartner, teulu a ffrindiau a gwir i chi, roeddent yn gefnogol. Nid oedd neb yn gweld bai arnaf, neb yn barnu, pawb yn siarad, ac fe siaradom a siaradom a siaradom!

Cadwais apwyntiadau rheolaidd gyda’r doctor a dechreuodd pethau wella’n araf bach. Roeddwn yn parhau i deimlo fel bod rhywbeth ar goll er teimlo llawer gwell, gan fod y bond gyda’m mab yn dechrau tyfu ac roedd bywyd yn dechrau dod yn haws. Roedd yn ychydig fisoedd eto cyn i ddarn coll y jig-so ffitio. Roeddwn i wedi mynd yn ôl ar y bilsen cyn gynted â phosib – ond nid oedd hwn yn gweddu – newidies i’r bilsen fini – progestogen yn unig – a bang, roedd popeth yn ffitio, teimlais yn gyfan!

Cynyddodd fy hyder, teimlais fel fi fy hun – roedd yn ffantastig.

pic 5 - (Westwood #2) Postnatal Depression

Dylid gwneud mwy am iselder ar ôl y geni

5 mlynedd yn ddiweddarach, dwi’n parhau i deimlo euogrwydd am y diffyg bond gyda Ryan ar y cychwyn, ond nid yw’n ymwybodol o gwbl. Mae’n blentyn hapus, gwallgof, yn llawn bywyd ac yn anymwybodol o’r llwybr anodd ar y cychwyn. Nid oes effaith parhaol ar neb, ond mae’n rhywbeth nad fyddwn yn ei ddymuno i neb. Ond mae wedi atal ni rhag cael mwy o blant.

Dwi’n meddwl dylid gwneud mwy yn y wlad yma i adnabod a helpu merched gydag iselder ar ôl y geni. Mae’n deimlad ofnadwy ac yn anffodus yn gallu dod i ben mewn ffyrdd ofnadwy – ysgafn iawn oedd fy iselder i o gymharu â rhai. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd â babi newydd, byddwch yna iddynt, holwch yn ysgafn i weld os ydynt yn iawn o ddifrif. Mae’n hawdd peintio gwen ar y wyneb a thwyllo pawb bod pethau’n iawn.


Llinellau Cymorth Iselder ar ôl y Geni

Os ydych chi’n poeni bod rhywun rydych chi’n adnabod yn dioddef gydag iselder ar ôl y geni, siaradwch â’ch doctor neu ymwelydd iechyd. Mae yna sefydliadau gall helpu hefyd fel:

Os hoffech ddarganfod pa wasanaethau sydd ar gael i chi a’ch plentyn yn eich ardal neu os hoffech sgwrsio am faterion teuluol yn gyffredinol, cysylltwch â llinell gymorth PwyntTeulu.

  • Ffôn: 0300 222 57 57
  • Neges Testun: 07860 052 905
  • Neges wib (gweler brig y dudalen)

Rydym yn agored 6pm – 10pm Llun i Iau a 10am – 2pm Gwener a Sadwrn.


Erthyglau Perthnasol:


Rhannwch hwn