Hunan Niweidio Fel Person Ifanc: Stori Si



Gofal Plant Iechyd Newyddion | gan | Jun 22nd 2016

Si-Story-Welsh

Gallai deimlo’n amhosib ceisio deall pam bod eich plentyn yn hunan niweidio. Ond os oes unrhyw un gallai esbonio’u profiad yna Si yw’r person hwnnw, cyd-sefydlwr Heads Above The Waves, sydd wedi cael profiad ei hun o hunan niweidio. Dyma stori Si.

Treuliais lawer o’m llencyndod ar ben fy hun. Weithiau roeddwn yn dewis gwneud – yn cloi fy hun yn fy ystafell, cadw ataf fy hun yn hytrach nag rhyngweithio gyda phobl – ond ar adegau eraill roeddwn i’n rhy letchwith a ‘wierd’ (beth bynnag mae hynny’n ei feddwl) i bobl.

Doeddwn i ddim yn ffitio yn yr ysgol. Roedd gen i un neu ddau ffrind agos, ond dyna ni. Roeddwn yn cael fy mwlio am edrych yn wahanol – neu roedd yn well gen i eistedd a chwarae cerddoriaeth yn hytrach nag bod allan ar y cae yn chwarae rygbi. Roeddwn yn dechrau dangos diddordeb mewn genethod, ond yn cael trafferth i gael nhw i gymryd diddordeb ynof i.

Oherwydd hyn roeddwn yn teimlo’n unig a bod neb yn deall ac yn ei dro gwna hyn i mi deimlo’n flin ac yn rhwystredig. Ac felly roeddwn yn cosbi fy hun drwy hunan niweidio. Cyfrinach i mi yn unig.

I dorri stori hir yn fyr, hunan niweidio oedd y ffordd gallwn i ymdopi am gyfnod. Nid ar y diwrnodau drwg iawn yn unig, ond pan fyddai’r pethau mwyaf syml yn fy ngofidio, byddwn yn cosbi fy hun.

Ond un diwrnod cosbais y drymiau yn hytrach nag fi fy hun, wrth chwarae mor galed ac mor sydyn ag y gallwn – ac roedd hynny’n cyflawni’r un peth. Roedd yn helpu fi i gael gwared â’r holl angerdd a’r rhwystredigaeth, ac i fynegi fy nheimladau. Yn syml, ar ei lefel fwyaf sylfaenol, roedd yn helpu am fy mod i’n gwneud RHYWBETH i ymateb i’m mhroblemau – ac roedd bellach yn rhywbeth creadigol a phositif, yn hytrach nag anafu fy hun.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae drymio a chreu cerddoriaeth wedi dod yn ffordd newydd i mi ymdopi, a dyma sy’n wir hyd heddiw.

Cafodd Heads Above The Waves ei sefydlu i rannu fy mhrofiad, i annog eraill i geisio defnyddio cerddoriaeth a’r ffaith bod pethau’n gallu gwella. Darganfyddom fod llawer mwy o bobl gyda straeon tebyg, ac mae amrywiaeth eang o bobl wedi defnyddio amrywiaeth eang o ffyrdd i ymdopi yn hytrach nag hunan niweidio. Yn y bôn, dydy “un maint ddim yn ffitio pawb”. Nid yw’r peth sydd yn gallu gweithio i un person o reidrwydd yn llwyddiannus i bawb, felly os ydych chi’n cefnogi rhywun sydd yn hunan niweidio, mae’n bwysig darganfod beth sy’n gweithio iddyn nhw. (Gallwch ddarllen o’m stori yma os oes gennych chi ddiddordeb!).

Wrth dyfu, roedd fy mywyd gartref wedi bod yn eithaf normal. Roeddwn yn lwcus iawn os rhywbeth. Roedd gen i ddau riant o gwmpas. Aethom i’r eglwys bob dydd Sul, roeddem yn cymryd rhan weithgar yn y gymuned, ac roeddem yn mynd ar wyliau. Roeddem yn gwylio Fawlty Towers a Dad’s Army ac yn bwyta ein pryd nos gyda’n gilydd.

Wrth i mi gyrraedd y blynyddoedd arddegau anodd, byddwn yn rholio fy llygaid ac yn treulio cyn lleied o amser â phosib yn eistedd wrth y bwrdd bwyd. O edrych yn ôl, mae hyn yn rhywbeth dwi’n teimlo’n ddiolchgar iawn amdano. Mae’r amser syml, byr yna o eistedd o amgylch bwrdd gyda’r bobl sy’n fy ngharu, os oeddwn i’n sylweddoli neu beidio, yn atgof dyddiol bod yna bobl yno i mi, nad oeddwn yn wynebu’r byd ar ben fy hun. Ni ddywedodd neb – ac ni fyddwn i yn 15 oed wedi cyfaddef – ond roedd yr amser yma gyda’n gilydd yn golygu rhywbeth. Dwi’n meddwl dylai pawb wneud yr amser i rannu prydau gyda theulu mor aml â phosib.

Churchill-Quote-WELSH

Pan gychwynnom Heads Above The Waves ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynais fod rhaid i mi ddweud wrth fy rhieni mod i wedi cael problem gyda hunan niweidio yn fy arddegau. Eisteddais i lawr gyda nhw i ddweud – “Roeddwn i’n hunan niweidio pan oeddwn i’n ifanc“. Roedd y gyfrinach yma roeddwn i wedi’i gadw am yr holl flynyddoedd allan yn yr awyr agored o’r diwedd. Dwi ddim yn meddwl mod i wedi ystyried sut byddant yn ymateb, ond doeddwn i wir ddim yn disgwyl beth ddigwyddodd: “O, roedden ni’n gwybod“. Efallai nad ydw i’n dda iawn yn cadw cyfrinachau wedi’r cwbl.

Beth! Roeddech chi’n gwybod? Pam na wnaethoch chi ddim am y peth?” – dyma fy ymateb yn fy syndod. Mae ymateb mam yn rhywbeth fydd yn aros efo fi:

Nid oeddem yn siŵr iawn beth i’w wneud. Felly roeddem ni… Yna i ti.” Yn sydyn cefais ôl-fflachiau o’r holl brydau wrth y bwrdd bwyd. Yr holl wahoddiadau i ddod i lawr i weld hen benodau o gomedïau’r 70au. Yr holl adegau byddai dad yn eistedd wrth fy ochr yn ddistaw yn chwarae gemau Playstation â’n gilydd. Yr holl adegau pan fydda mam yn dod i’m llofft a gwrando’n amyneddgar wrth i mi rantio am yr ysgol. Yr holl bethau bach nad oeddwn i wedi sylweddoli oedd yn digwydd, ond oedd yn gynnil, yn atgofion cyson fod cariad. Bod rhywun yno i mi.

Y peth allweddol i chi gymryd o ddarllen hwn ydy efallai nad ydych chi’n teimlo fel eich bod yn gwneud llawer weithiau. Ond mae’n bosib eich bod yn cael effaith mawr. Efallai nad ydynt yn sylweddoli ar hyn o bryd, ond mae’n debyg y byddant mewn blynyddoedd i ddod. Wrth fod yn bresennol, bod â diddordeb ynddyn nhw a’u sefyllfa, yn gwneud amser i eistedd a sgwrsio gyda nhw, mae’r rhain i gyd yn bethau gall wneud gwahaniaeth mawr.

Weithiau nid oes angen siarad. Gwnewch weithgaredd â’ch gilydd – darganfod rhywbeth sy’n diddori’r ddau ohonoch, neu gychwyn rhywbeth newydd â’ch gilydd. Hyd yn oed os yw’n ymarfer corff unwaith yr wythnos, siarad am ffilm neu lyfr newydd, neu gael llwyth o ddeunyddiau i mewn a gwneud ychydig o gelf a chrefft. A chofiwch: mae pobl ifanc yn hoff iawn o rolio’u llygaid a chwyno – dyma rydym ni’n ei wneud – ond mewn ychydig flynyddoedd, mae’n debyg byddant yn cofio’r atgofion da ac yn gwerthfawrogi’r amser treulio’ch yn rhannu diddordeb â nhw.

Dwi’n meddwl bod ymwybyddiaeth well o pam bydda rywun yn hunan niweidio – deall ei fod yn ateb y diben, fel ffordd o ymdopi – gallai hyn wneud i chi deimlo’n fwy parod i helpu rhywun arall. Chwarae drymiau oedd yn helpu fi, ond fel dywedais, nid yw un maint yn ffitio pawb.

Byddwch yn ymwybodol o ba dechnegau ymdopi positif sydd gan eich plentyn (neu hoffai eich plentyn ei ddysgu!), ac annog hyn cymaint ag sy’n bosib. Mae fy nheulu a’m nghymdogion yn haeddu medal am ddioddef oriau o ymarfer drymio rhyddhaol. Sicrhaf fod pas cefn llwyfan i chi pan fyddaf yn perfformio yn Stadiwm Wembley.

Nid oes rhaid i chi fod ofn helpu rhywun sydd yn hunan niweidio. Mae’n wir fod gweld rhywun yn anafu eu hunain yn gallu anafu chi, ond eu brwydr nhw yw hwn – nhw sydd angen taclo hyn ar gyflymder eu hunain. Ond gallech chi fod yna iddynt yn ystod y siwrne. Nid oes rhaid poeni oes nad ydych yn gwybod beth i’w wneud. Mae bod yno iddynt yn ddigon.


Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Heads Above The Waves – sefydliad dielw sydd yn codi ymwybyddiaeth o hunan niweidio ymysg pobl ifanc, ac yn hyrwyddo ffyrdd creadigol i ymdopi â’r dyddiau drwg. Ymwelwch â’u gwefan i ddarganfod cyngor, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth.

Os hoffech ddarganfod gwybodaeth am wasanaethau sydd yn agored i chi a’ch plentyn yn eich ardal chi, neu os hoffech siarad am faterion teuluol yn gyffredinol, cysylltwch â llinell gymorth PwyntTeulu Cymru.

  • Ffôn: 0300 222 57 57
  • Neges Testun: 07860 052 905
  • Neges wib (gweler brig y dudalen)

Rydym yn agored 6pm – 10pm Llun i Iau a 10am – 2pm Gwener a Sadwrn.


Os ydych chi’n poeni bod eich plentyn yn hunanniweidio, neu eisiau gwybodaeth bellach, yna mae Heads Above The Waves wedi ysgrifennu sawl blog yn cynnig cefnogaeth a chyngor.

Darllenwch rhai o’r erthyglau eraill:


Rhannwch hwn