Hunan-niwed: Ffyrdd Di-fudd o Godi’r Pwnc



Iechyd | gan | May 19th 2016

Barriers To Conversation Self Harm article

Dyma’r ail erthygl gan Heads Above The Waves ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Maent wedi bod yn siarad â phobl ifanc o Dde Cymru am eu profiadau o gael sgyrsiau am hunan-niwed, rhai sydd wedi’u cychwyn gan rieni neu ofalwyr.

Rydym wedi casglu rhai o’r pethau dywedwyd yma fel ffordd o arddangos ffyrdd buddiol ac anfuddiol i siarad â’ch person ifanc am hunanniweidio. Gall hyn hefyd eich paratoi chi ar gyfer y sgwrs os ydych chi wedi sylwi ar anafiadau, neu os yw’r person ifanc yn ymddwyn yn wahanol yn ddiweddar, neu os yw’r ysgol yn dweud eu bod cael trafferth.

“Penderfynodd fy nhad i godi’r pwnc yn ystod pryd o fwyd teuluol. Roedd pawb yno – cefnderoedd a chyfnitherod, modryb ac ewythrod, fy mrodyr a’m chwaer fach. Nid oedd angen darlledu hyn ac roedd gen i gymaint o gywilydd!”

Mae cychwyn sgwrs fel hyn yn gallu gwneud i bawb deimlo’n anghyffyrddus. Gall dewis rhywle preifat, distaw, i siarad un i un ei wneud yn llawer llai dychrynllyd i’r person ifanc ac yn gymorth iddynt deimlo’n ddiogel i siarad heb deimlo fel eu bod yn cael eu barnu. Maent yn fwy tebygol o gael sgwrs resymol os ydych chi’n parchu eu preifatrwydd.

Wrth gychwyn y sgwrs, gofynnwch a ydynt yn iawn i siarad gyda chi am y peth neu os bydda’n well ganddynt siarad ag aelod arall o’r teulu, rhywun maent yn teimlo’n fwy cyffyrddus â nhw. Dywedwch wrthynt na fyddwch yn siarad ag aelodau eraill o’r teulu dim ond mewn sefyllfa angenrheidiol ac y byddwch yn sicrhau eu bod yn gynnil ac yn deall y sefyllfa os oes rhaid dweud.

“Roedd Mam a Dad yn gynorthwyol am eu bod yn gadael i mi siarad am bethau cyffredinol”

Mae hyn yn grêt, am fod siarad yn gyffredinol yn rheolaidd yn gallu cryfhau perthynas ac yn atal pethau rhag mynd yn rhy fawr. Nid oes rhai iddo fod yn sgwrs ddwys am hunan-niwed. Gall fod yn sgwrs am sut ddiwrnod cawsant.

Weithiau nid fydd yr amser yn gywir i siarad, felly gall fod yn help dweud eich bod yno i sgwrsio unrhyw amser, a sicrhewch eich bod yn treulio mwy o amser â’ch gilydd fel bod ganddynt gyfle i siarad â chi – pan fyddant yn barod. Mae gorfodi rhywun i siarad yn gallu gwneud iddynt gau i lawr, mae’n well rhoi’r opsiwn iddynt pan fyddant yn teimlo’n hapus i siarad am y pethau sy’n digwydd.

Starting-Conversations-1---Welsh 1000x

“Roeddent yn gwaeddi ac yn dweud ‘Pam na ddwedais di?!’ ac yna dechreusant grio”

Mae dangos emosiwn yn iawn am ei fod yn dangos eich bod yn poeni am y person ifanc, ond gall gwaeddi godi ofn a phwysleisiodd y bobl ifanc siaradom â nhw nad oeddent eisiau gwneud rhywun yn flin wrth gychwyn sgwrs. Mae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy euog am y pethau maent wedi’i wneud a gofidio am y ffaith eu bod wedi achosi poen i chi.

Ar y funud hon, nid yw hyn amdanoch chi – felly mae’n bwysig canolbwyntio ar pam eu bod yn teimlo mai hunan-niwed oedd yr ateb, a sut gallech chi helpu iddynt ymdopi’n well. Y peth gorau i wneud, hyd yn oed pan fydd emosiynau’n uchel, ydy ceisio aros yn dawel, cadw’ch pen a chysuro’r person ifanc. Cymerwch 5 munud os oes angen, peidiwch ofni dangos emosiwn, ond peidiwch bod yn flin.

“Hoffwn petai hi’n ceisio helpu fi drwy hyn yn hytrach nag defnyddio tactegau sioc”

Dywedodd rhai pobl ifanc bod eu rhieni neu ofalwyr wedi ceisio’u dychryn i beidio hunanniweidio gan ddefnyddio tactegau sioc.

Dydy ceisio dychryn rhywun, rhoi’r senario gwaethaf neu wltimatwm niweidiol ddim yn helpu ac yn gallu’ch dieithrio chi o’r person ifanc.

Mae deall bod hunan-niwed yn gallu cuddio problem sylfaenol sydd angen ei ddatrys yn allweddol. Canolbwyntiwch ar y gefnogaeth bositif gallech chi ei roi a siaradwch am dechnegau ymdopi gwahanol.

“Parhewch i ofyn os dwi’n iawn – nid am yr wythnos gyntaf yn unig ac yna gobeithio ei fod yn diflannu”

Er nad oeddent eisiau rhywun yn swnian arnynt drwy’r adeg, mae yna linell rhwng holi a chynnig cefnogaeth heb fod yn oramddiffynol ac yn cecru arnynt i fod yn well yn barod.

Gwnewch yn sicr bod gwir gefnogaeth mewn lle i’r person ifanc, gan y teulu neu gefnogaeth allanol fel cynghorwr. Rhaid gwybod gall hyn fod hyn yn fater unigryw neu efallai’n sefyllfa barhaus. Peidiwch â’u trin yn wahanol ond sicrhewch eu bod yn gwybod eich bod yno iddynt, gwnewch amser i weld os ydynt yn iawn a darganfod ffordd i gysylltu a chefnogi sydd yn gyffyrddus i chi’ch dau.

Dyma erthygl arall gan Heads Above The Waves i PwyntTeulu am gychwyn sgyrsiau.


Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Heads Above The Waves – sefydliad dielw sydd yn codi ymwybyddiaeth o hunan-niweidio ymysg pobl ifanc, ac yn hyrwyddo ffyrdd creadigol i ymdopi â’r diwrnodau drwg. Ymwelwch â’u gwefan am gyngor, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth.

Os hoffech ddarganfod mwy am y gwasanaethau sydd yn agored i chi a’ch plentyn yn eich ardal neu eisiau siarad am faterion teuluol yn gyffredinol, cysylltwch â llinell gymorth PwyntTeulu Cymru.

  • Ffôn: 0300 222 57 57
  • Neges Testun: 07860 052 905
  • Neges Wib (gweler top y dudalen)

Rydym yn agored 6pm – 10pm Llun i Iau a 10am – 2pm Gwener a Sadwrn.

Credyd Llun Clawr: kevinwenning trwy Compfight cc


Rhannwch hwn