Fy Nhad… Yr Alcoholig



Cyngor Teulu a Magu Plant Iechyd | gan | Jan 18th 2017

Rhybudd: Mae hwn yn gyfrif gonest o fywyd person ifanc gyda thad sy’n alcoholig, yn ymdrin â materion fel trais yn y cartref, alcoholiaeth, iechyd meddwl a hunan laddiad. Efallai bydd rhai o’r pynciau trafodir yn yr erthygl hon yn aflonyddu rhai.

Os ydych chi’n dioddef gydag unrhyw un o’r materion yn yr erthygl yma yna mae manylion cyswllt ar waelod yr erthygl i sefydliadau gall helpu. Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol ar TheSprout, gwefan gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc yng Nghaerdydd.

Fy Nhad, Yr Alcoholig

Alcohol – Mae rhai yn dweud ei fod yn rhywbeth sydd yn gallu gwneud i chi deimlo’n fwy rhydd; rhywbeth sydd yn rhyddhau’r ‘frenhines dawnsio fewnol’; ac os ydych chi’n yfed gormod, rhywbeth sydd yn rhoi cur pen bach i chi yn y bore… ia iawn!

I mi, mae alcohol wedi rhoi bywyd o ben mawr sy’n mathru’r ysbryd ers cyn i mi fedru cofio. Mae alcohol wedi newid fy mywyd. Weithiau wedi ei ddifetha, weithiau wedi fy achub (achubwr ar ôl i berthynas chwalu) ac weithiau alcohol sydd wedi cael y bai am unrhyw beth drwg sydd wedi digwydd i mi erioed. Pam gofynnwch? ‘Pam?’ ydy’r cwestiwn sydd yn llenwi fy mhen pan fydd y goleuadau yn diffodd yn y nos. Alcohol ydy pam.

Os byddwn i’n dweud nad oeddwn i’n mwynhau diod neu ddau ar y penwythnos yna celwydd fyddai hynny; roeddwn yn gweithio mewn bar fel myfyriwr hyd yn oed, ond, mae ôl-effeithiau ‘peint neu ddau’ wedi parhau yn hirach na’r ‘hangofyr’ arferol. Alcohol yw’r rheswm pam bod fy meddwl a fy nghalon agored wedi teimlo pen mawr ar hyd fy oes mwy neu lai.

Wrth dyfu roedd gen i fam a ‘tad’; ond, roedd fy nhad yn ddau berson hollol wahanol. Roedd dad yn garedig, yn ddeallus ac roedd ei safle yn y gymdeithas yn un o sant; nes iddo gael potel neu ddau o wisgi a throi’n berson cwbl groes. Yn newid i mewn i’r anghenfil oedd yn ymyrru ar fy mywyd bob dydd.

Atgofion Da o Dad Alcoholig

Mae’n anodd meddwl am amser pan roedd fy nhad yn sobor. Y ddelwedd ohono yn llymeitian pa bynnag ‘ddiod diafol’ gallai gael gafael arno oedd y norm. Nid oedd yr alcohol yn ei wneud yn ddrwg bob tro, weithiau’r alcohol roddodd rhai o’m hatgofion gorau ohono.

Fel un tro, pan ddychwelais o’r ysgol ac roedd yna barc yn yr ardd (parc iawn!). Dywedodd ei fod wedi dwyn y parc lleol (gyda llaw hwn oedd fy mharadwys fel plentyn) ac y byddai pawb yn genfigennus ohonof. Treuliom y prynhawn, hyd at y nos gynnar, yn siglo ac yn sleidio, nes i mam ddechrau gwaeddi arnom i ddod i’r tŷ i gael bath yn barod i’r ysgol y diwrnod canlynol.

A fi yn bod yn fi, credais ei fod wedi dwyn y parc hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl. O feddwl, roedd yn gweithio i’r cyngor lleol, ac wedi eu cael cyn iddynt gael eu taflu ar y domen. Ond y diwrnod yna fydd fy atgof gorau ohono am byth. Ond wedyn bydd rhywbeth arall yng nghefndir y diwrnod hwnnw bob tro fydd yn chwarae rhan mwy, y botel o Bells nad ellir ei roi lawr i’m ngwthio ar y siglen. Er, weithiau, roedd cyfnodau da fel hyn, roedd alcohol bob tro’n sleifio ei ffordd i darneisio pob atgof da ohono.

Torri Addewidion a Thad Absennol

Y pethau drwg, wel, dyna sydd yn rhoi bywyd o ben mawr i mi. Dwi’n cofio treulio Sul y Tadau yn disgwyl amdano i gael rhoi anrheg iddo. Dwi’n cofio byw ar ffa pob a thost am ei fod wedi gwario’r holl arian ar alcohol. Dwi’n cofio’r gwaeddi, y cwffio, yr ymddygiad afreolaidd. Dwi’n cofio ef yn dyrnu fy mam i bwlp ac yn ei gadael yno, weithiau’n ymwybodol, weithiau’n anymwybodol, yn gwaedu, yn wylo, gyda photeli wisgi wedi malu ymhobman.

Dwi’n cofio dad yn treulio Diwrnod Nadolig yn disgyn i mewn i’r goeden am ei fod wedi meddwi’n gaib, yn llosgi’r twrci ‘ar ddamwain’ am ei fod wedi pasio allan ar y soffa gyda phen trwm o ‘ddewrder alcohol’. Dwi’n cofio’r briwiau ar ôl iddo ddisgyn ar ei wyneb ar y pafin ar ei ffordd adref o’r dafarn. Dwi’n cofio os nad oedd yn treulio amser yn y dafarn roedd yn y sied yng ngwaelod yr ardd (lle’r oedd y plant wedi ei wahardd… dwi ddim yn gwybod beth roedd yn ei wneud yno).

Dwi’n cofio’r addewidion wedi’u torri, y poteli wisgi gwag a theimlo fel na fyddwn byth mor bwysig iddo a’i fotel. Dwi’n cofio’r salwch; pan roedd yn treulio’r dydd yn llenwi ei fotel wisgi di-ben-draw, yn colli ei hun yn y broses. Alcohol oedd ei gariad cyntaf ac nid oedd ei deulu’n cymharu.

Tamaid Bach o Ryddid

Ym mhen hir a hwyr, dechreuais gasáu’r dyn yr oedd fy nhad bellach. Roedd yr atgofion hapus wedi pylu, ac yn y diwedd, ar ôl blynyddoedd o fyw gyda camdriniwr alcohol, penderfynodd mam adael.

Gadael meddw oedd wedi gwneud pob diwrnod yn uffern; roedd hynny’n hawdd. Gadael y gobaith o gael fy nhad perffaith, cryf yn ôl; roedd hynny’n stori wahanol. Mae pawb eisiau tad sy’n poeni.

Hyd yn oed gyda’n rhyddid newydd, nid oeddem yn rhydd o’m nhad a’i gythraul. Roedd yn ein dilyn. Bydda’n eistedd tu allan i’m hysgol gynradd yn bygwth ein herwgipio. Yn fwy na hynny, bydda’n bygwth lladd ei hun a ni gydag ef. Roedd yn ffonio o hyd. Roedd yn eistedd yn ein gardd cefn yn ein gwylio trwy’r ffenestr. Roedd presenoldeb yr heddlu yn normal erbyn hynny, a’i ymddygiad yn hyd yn oed fwy.

Roedd alcohol wedi cymryd y ffigwr dadol ddelfrydol allan o’m huned teulu, ac wedi cymryd ei iechyd meddwl a chorfforol hefyd. Roedd fy nhad yn gysgod o’r dyn yr oedd unwaith, yr un oedd yn treulio’r pnawn yn fy ngwthio ar y siglen. Roedd alcohol wedi cymryd yr unig ddyn roeddwn i’n crefu am gysur ganddo. Nid ‘tywysoges fach dadi’ oeddwn i bellach, ac nid fy ‘Mrenin’ i oedd ef ychwaith. Roedd ei garedigrwydd, ei ddeallusrwydd a’i safle cymdeithasol fel sant wedi marw; ynghyd â phob blewyn o barch yr oedd gennyf tuag ato unwaith.

Ar ôl cyfnod daeth y galwadau ffôn diddiwedd yn llai, nid oedd i’w weld wrth giatiau’r ysgol bellach, nid oedd y Cwnstabl yn treulio’r nosweithiau yn chwarae ‘Snakes & Ladders’ gyda fi ac roedd pryderon mam wedi diflannu. Roedd fel petai dad wedi mynd ar y trên agosaf ac wedi diflannu. Nid bod hynny’n fy mhoeni, roeddwn yn hapus i gerdded i ffwrdd oddi wrth y botel wisgi mawr.

I raddau beth bynnag… mae’n naturiol i chi fod eisiau i’ch rhieni gyfaddef eu diffygion a rhedeg yn ôl atoch am faddeuant. Treuliais bob Nadolig yn eistedd ar stepen waelod y grisiau, ger y drws, yn disgwyl iddo ddod i mewn ac ymddiheuro am bopeth. Pob pen-blwydd roeddwn yn dal i ddisgwyl am gerdyn drwy’r post ac weithiau roeddwn yn gobeithio y byddai wrth giatiau’r ysgol. Ond ni welais, byth eto.

Colli Fy Nhad

Roeddwn yn aros, roeddwn i eisiau, roeddwn i angen ac roeddwn i’n disgwyl iddo ymddangos. Nes chwalwyd fy mreuddwydion un bore tywyll ym mis Medi. Deffrais a gwisgais fy ngwisg ysgol Blwyddyn 7 newydd a darganfod bod dad wedi lladd ei hun. Roeddwn yn 11, fy nhad dim ond yn 37. Mae’n debyg bod dad wedi ei drechu yn y diwedd, wedi gadael i’w ddibyniaeth ei ladd. Dyma oedd y peth anoddaf. Roedd y tad oedd yn arfer treulio dyddiau Sul yn cerdded i fyny’r mynyddoedd gyda fi, yr un oedd yn mynd a fi i’m mharc paradwys fel plentyn – roedd wedi diflannu, ynghyd â phob gobaith o aduniad hapus. Alcohol a’i ddibyniaeth oedd y bai mwyaf, ond roedd ei ddiffyg gallu i siarad â phobl ar fai hefyd.

Fel plentyn roeddwn yn meddwl ei fod yn hunanol. Roeddwn yn arfer meddwl ei fod yn hynod o wan, ond wrth i mi fynd yn hŷn, mae fy llygaid wedi agor i’r syniad o ddibyniaeth a phroblemau iechyd meddwl. Nid oedd fy nhad yn anghenfil, nid oedd yn wan, dim ond angen ychydig o ddewrder i fedru bod yn agored a gwneud rhywbeth am y pethau oedd yn ei boeni. Roedd angen iddo gyfaddef ei fod yn sâl, cyfaddef ei fod yn berson caeth a chymryd cyfrifoldeb am ei weithrediadau.

Dwi ddim yn gwybod beth wnaeth i’m nhad droi i ddiod, ond dwi yn gwybod bod hyn wedi siapio fi mewn sawl ffordd. Bydd fy nhad yn parhau i fod y dylanwad mwyaf ar fy mywyd; mae wedi dangos i mi beth i beidio gwneud wrth i mi fyw ar y Ddaear yma.

‘Hangofyr’ Hyd Oes

Mae rhai pobl yn meddwl bod caethiwed i alcohol yn rhywbeth gellir ei stopio’n hawdd. Eich bod yn gallu deffro un diwrnod a phenderfynu nad ydych am yfed eto. Eich bod yn dewis chwalu bywydau’r bobl rydych chi’n ei garu. Dewisodd fy nhad i yfed, ond dwi’n amau ei fod wedi meddwl byddai hyn yn golygu na fydda’n rhannu’r Byd yma gyda fi bellach neu’n reswm i mi grio fy hun i gysgu yn y nos.

I mi, alcohol fydd y prif reswm pam dwi’n crio ar Sul y Tadau, pam dwi’n teimlo cenfigen wrth weld pobl yn cerdded law yn llaw gyda’u tad yn y stryd. Alcohol fydd y rheswm pam mod i wedi treulio’r 23 pen-blwydd diwethaf hebddo, am ei fod allan yn y dafarn neu am ei fod wedi marw. Caethiwed i alcohol fydd y rheswm am ei absenoldeb bob tro.

Mae rhywfaint bach o alcohol yn iawn, ond plîs peidiwch adael iddo reoli’ch bywyd fel fy nhad. Os ydy pethau yn dechrau mynd allan o reolaeth, yna mae yna gymorth allan yna a mwy; mae yna bobl fel fi sydd yn erfyn arnoch i siarad a chael help cyn i bethau fynd yn rhy hwyr. Peidiwch wneud i rywun arall orfod byw ei fywyd efo ‘hangofyr’ hyd oes fel fi.

Help Ar Gael

Os ydych chi’n poeni am unrhyw broblemau yn ymwneud ag camdriniaeth alcohol, bod hynny’n aelod teulu, ffrind neu chi’ch hun, yna mae yna sefydliadau gall helpu:

Dan 24/7

Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru. Llinell gymorth ddwyieithog am ddim yn cynnig gwybodaeth bellach neu help yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol.
Rhad Ffôn: 0808 808 2234
Neges Testun: DAN i 81066
Gwefan: www.dan247.org.uk

Alcoholigion Anhysbys

Grwpiau o bobl yn rhannu eu profiadau, cryfderau a gobeithion i helpu eraill i wella o alcoholiaeth. Helpu pobl i aros yn sobor a helpu eraill i gyflawni sobrwydd.
Rhad Ffôn: 0800 9177 650
E-bost: help@aamail.org
Gwefan: www.alcoholics-anonymous.org.uk

Gofal Profedigaeth Cruse Cymru

Rhywle i droi pan fydd rhywun wedi marw. Gwasanaethau cyfrinachol am ddim wedi’i ddarparu gan wirfoddolwyr hyfforddedig.
Rhad Ffôn: 0808 808 1677
Gwefan: www.cruse.org.uk/wales

Byw Heb Ofn

Gwybodaeth a chyngor i rai sy’n dioddef o gamdriniaeth ddomestig, trais rhywiol a ffurfiau eraill o drais yn erbyn merched.
Rhad Ffôn: 0808 801 0800
Gwefan: www.bywhebofn.llyw.cymru

Mind

Cyngor a chefnogaeth i rai sy’n dioddef â phroblemau iechyd meddwl.
Llinell Gwybodaeth Mind: 0300 123 3393
Neges Testun: 86463
Gwefan: www.mind.org.uk

Meic

Rhywun ar Dy Ochr Di. Gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
Rhad Ffôn: 0808 80 23456
Neges Testun: 84001
Sgwrs Ar-lein: www.meic.cymru

Llinell Gymorth PwyntTeulu

Mae gan PwyntTeulu Cymru linell gymorth os ydych chi angen gwybodaeth neu gyngor ar faterion teuluol yng Nghymru.

  • Ffôn: 0300 222 57 57
  • Neges Testun: 07860 052 905
  • Neges Sydyn Ar-lein (gweler yma)

Rydym yn agored 9am – 5pm dydd Llun i ddydd Gwener. 


Os oeddech chi’n hoff o’r erthygl yma, mae yna lawer mwy yn ein hadran Cylchgrawn. Dyma rhai ohonynt yma:

Rhannu’r Baich… Mae Fy Mab Ifanc yn Yfed

Marwolaeth a Galar: Sut i Siarad â’ch Plentyn

Rhoi Adborth Am Gyfle i Ennill Talebau

 


Rhannwch hwn